Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (112) |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3 a 5 i 15. Cafodd cwestiynau 3 a 13 a chwestiynau 9 a 14 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 12 a 14 i 15. Atebwyd cwestiwn 4 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl.
3. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NDM5137
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cerddwyr a gafodd eu hanafu neu eu lladd yn cynrychioli 21 y cant o nifer y bobl a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2011;
2. Yn cydnabod bod terfynau cyflymder o 20 milltir yr awr wedi’u profi i fod yn fuddiol i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu neu eu lladd; a
3. Yn galw ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20 milltir yr awr yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Losgi Gwastraff
Dechreuodd yr eitem am 15.50
NDM5161 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-341: Llosgi Gwastraff, a osodwyd gerbron y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 30 Ionawr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ar Ofal yn y Gymuned (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) (Mark Isherwood)
Dechreuodd yr eitem am 16.44
NDM5121 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Mark Isherwood gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Tynnwyd y cynnig yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Cyfnod Pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
6. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.22
NDM5160 Nick Ramsay (Mynwy):
Cyfrifiadura Perfformiad Uchel – Pweru arloesedd er lles economi Cymru
7. Dadl Fer - gohiriwyd o 23 Ionawr
Dechreuodd yr eitem am 17.43
NDM5145 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Arbennig, Unigryw ac mewn Argyfwng - Y bygythiadau i ddiwydiant Cig Oen Cymru a’r angen i weithredu
Daeth y cyfarfod i ben am 18:10
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2013